Pecyn Adnoddau Gwiberod Gwych!

Folder Pecyn Adnoddau Gwiberod Gwych!

AAA Resource Pack Thumbnail of cover Welsh   AAA Resource Pack Thumbnail of back cover Welsh   AAA Resource Pack Thumbnail of contents Welsh

 

Mae'r pecyn adnoddau hwn yn tynnu ynghyd rai o'r offerynnau ymgysylltu artistig a gwyddonol mwyaf effeithiol a ddatblygwyd gan brosiect Gwiberod Gwych! Nid yw pob un yn newydd sbon, a gellid datblygu nifer ohonynt ymhellach, i'w defnyddio ar gyfer ystod llawer ehangach o 'rywogaethau heriol' eraill efallai, er enghraifft amffibiaid ac infertebratau. Yn ystod y prosiect a ariennir, llwyddom i gefnogi llawer o grwpiau a oedd eisiau cymryd rhan, ond yr oedd eu hadnoddau yn brin fel arall. Rydym yn cydnabod bod cost yn gallu bod yn rhwystr sylweddol wrth geisio ymgysylltu, ac felly rydym yn cyflwyno dewis o weithgareddau er mwyn rhoi digon o opsiynau i chi, gan ddibynnu ar eich cyllideb a'r math o grŵp yr ydych yn gweithio gydag ef.

Gyda phobl ifanc (taflenni gweithgaredd coch: 3-7 oed, a gwyrdd: 8+ oed) gwelsom mai'r gweithgareddau mwy 'ymarferol' neu weledol oedd fwyaf llwyddiannus. Gyda’r grwpiau hyn, er enghraifft Prifysgol y Drydedd Oes, Sefydliad y Merched a chynghorau cymuned (taflenni gweithgaredd glas), mae cynnig cyflwyniad neu grŵp ffocws i drafod pryderon am wiberod a sut i helpu'r gymuned, yn gallu bod yn hynod o effeithiol. Credwn fod gweithio gyda phob aelod o'r gymuned, waeth beth yw eu hoed, rhywedd, amgylchiadau ariannol, anabledd, ethnigrwydd, neu lawer o'r gwahaniaethau eraill sydd gennym, yn bwysig iawn. Yma, rydym yn cynnig gweithgareddau y gellir eu datblygu wrth weithio gyda phob grŵp.

Gobeithiwn y bydd y pecyn hwn yn tanio eich dychymyg ac yn cynnig syniadau ar gyfer prosiectau ymarferol i'w gweithredu yn eich ardal chi, er mwyn eich helpu i godi ymwybyddiaeth am wiberod a newid dirnadaeth y cyhoedd am yr anifeiliaid anhygoel hyn, cyn i ni eu colli am byth. Mae rhwydd hynt i chi argraffu'r adnoddau, eu llungopïo a'u dosbarthu fel y mynnwch. Defnyddiwch nhw ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, cyflwyniadau neu waith ymgysylltu mewn ysgolion. Gobeithiwn y byddant o fudd i chi a gwerthfawrogwn eich adborth

Documents

pdf 01 Nadroedd Sicr, Ansicr, Neu Ofn Cymraeg Popular

By 1054 downloads

Download (pdf, 1.10 MB)

1 Nadroedd - Sicr, Ansicr, Neu Ofn_Cymraeg.pdf

Pan fyddwch yn dechrau gweithio gydag unrhyw grŵp newydd, mae'n bwysig darganfod faint y maent yn ei wybod am nadroedd, a sut y mae nadroedd yn gwneud iddynt deimlo. Yn anochel, bydd 'arbenigwyr' brwdfrydig yn rhan o'r grŵp, ond efallai y bydd eraill sy'n ofn neu sydd â ffobia, a llawer mwy sydd ddim yn gwybod sut y maent yn teimlo. Rydym wedi datblygu ffordd o dorri'r ia, er mwyn annog pawb i gymryd rhan a dweud beth y maent yn ei wybod a sut y mae nadroedd yn gwneud iddynt deimlo. Mae hwn yn faes sensitif, ac felly mae'n bwysig canmol plant am yr hyn y maent yn ei wybod (yn enwedig os ydynt yn ofnus), a sicrhau nad yw'r rheiny sy'n ofn neu'n bryderus yn teimlo'n ynysig neu'n teimlo bod pobl yn chwerthin amdanynt. Byddwch yn empathetig! Defnyddiwch enghraifft o ofnau eraill sydd gennym, efallai - mae pawb yn wahanol ac nid nhw sy'n 'anghywir'. Anogwch y rheiny sydd ddim yn siŵr i ymuno ac i ddarganfod mwy.

pdf 02 Ecoleg Ymarferol_Cymraeg.pdf Popular

By 1026 downloads

Download (pdf, 920 KB)

2 Ecoleg Ymarferol_Cymraeg.pdf

Pan fyddwch yn gweithio gydag ysgolion, mae'n werth archwilio'r cwricwlwm cenedlaethol presennol ar gyfer eich gwlad chi, i weld sut y gallwch deilwra eich gweithdy i gyfateb i hyn. Mae ysgolion llawer yn fwy tebygol o neilltuo amser ar gyfer eich ymweliad, neu gynnal teithiau maes, os oes cysylltiadau clir at y cwricwlwm. Mae'r daflen hon yn amlygu pethau y gallech eu cynnwys. Gall gwaith ymgysylltu â gwiberod ffitio i gymaint o feysydd yn y cwricwlwm, gan gynnwys: celf, hanes, daearyddiaeth, drama, mathemateg, Cymraeg a Saesneg iaith - barddoniaeth, ysgrifennu creadigol. Serch hynny, y cysylltiad amlycaf yw ecoleg a gwyddoniaeth. Edrychwch ar y daflen 'Cerdd am wiberod' a'n holl weithgareddau artistig i gael mwy o syniadau. Mae ein taflen 'Cadwyni a gweoedd bwyd’ hefyd yn cynnig syniadau ar gyfer gweithgaredd ecolegol syml, y gallwch ei addasu at oed a Chyfnod Allweddol eich grŵp. Ar y daflen hon, cewch ragor o gyngor am sut i ddod ag ecoleg i mewn i'r ystafell ddosbarth pan fyddwch yn siarad am wiberod. Rhowch glic ar adran ‘Adders are Amazing/Gwiberod Gwych’ gwefan ARG UK er mwyn lawrlwytho templed PowerPoint rhad ac am ddim y gallwch ei ddatblygu i'w ddefnyddio mewn sesiynau yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyngor pellach yn yr adran ‘Adnoddau'.

pdf 03 Gwiberod Clai_Cymraeg.pdf Popular

By 1055 downloads

Download (pdf, 1.51 MB)

3 Gwiberod Clai_Cymraeg.pdf

Gweithgaredd cyffwrdd gwych i blant ifancach a phlant hŷn hefyd. Mae'r rhan fwyaf o blant wrth eu bodd yn gwasgu ac yn mowldio clai. Mae'r gweithgaredd hwn hefyd yn gymorth iddynt gryfhau eu sgiliau adnabod, trwy atgyfnerthu siâp y neidr a'r patrwm ar gefn y wiber, ac mae'n rhywbeth hyfryd y gallent fynd ag ef adref gyda nhw a'i addurno yn eu hamser eu hunain. Syml a rhad iawn, ond hynod o effeithiol!

pdf 04 Hudlathau CIai_Cymraeg.pdf Popular

By 1042 downloads

Download (pdf, 2.01 MB)

4 Hudlathau CIai_Cymraeg.pdf

Dyma weithgaredd crefftus gwych ar gyfer gwyliau a digwyddiadau cymunedol. Mae plant wrth eu bodd yn gwneud rhywbeth y gallant chwarae ag ef wrth redeg o le i le - ac maent wrth eu bodd â'r hudlathau 'Harry Potter' hyn. Maent hefyd yn ffordd wych o ddenu sylw'r rheiny sy'n pasio heibio, i ddod i mewn i ddysgu mwy am ein hymlusgiaid brodorol. Rydym wedi gweld bod hyd y n oed oedolion wrth eu bodd yn addurno pren - mae'n falm i'r enaid!

pdf 05 Cadwyni a Gweoedd Bwyd_Cymraeg.pdf Popular

By 1266 downloads

Download (pdf, 1.97 MB)

5 Cadwyni a Gweoedd Bwyd_Cymraeg.pdf

Mewn ysgolion, rhan bwysig o waith y cwricwlwm gwyddoniaeth yw'r cysyniad o gadwyni bwyd ac, ar gam uwch, gweoedd bwyd Mae'r gweithgaredd hwn yn llawer o hwyl ac yn addysgu plant sut y mae anifeiliaid yn rhyngweithio gyda'u hamgylchedd a'i gilydd, a sut y gall unrhyw newidiadau effeithio ar bob un ohonynt. Mae arnoch angen casgliad o anifeiliaid ffug sy'n cynrychioli bywyd gwyllt brodorol - nid oes rhaid iddynt edrych yn realistig. Os ydych yn gweithio gyda dosbarth mewn ysgol, mae detholiad o 30 tegan yn ddelfrydol ond mae niferoedd llai yn iawn ar gyfer gwaith grŵp. Mae hyn yn cynnwys nadroedd, eitemau y maen nhw’n eu hysglyfaethu ac ysglyfaethwyr.

pdf 06 Pensiliau Gwiberod Hud Cymraeg Popular

By 1020 downloads

Download (pdf, 1.70 MB)

6 Pensiliau Gwiberod Hud_Cymraeg.pdf

Dyma weithgaredd crefftus, syml, sy'n ddelfrydol i blant ifancach. Gallwch wneud y gweithgaredd hwn yn yr ystafell ddosbarth neu yn ystod ymweliad grŵp. Y ffordd orau o ddechrau yw cyflwyno'r grŵp i wiberod a'u cynefinoedd yn gyntaf. Yna, gadael iddynt roi tro ar y gweithgaredd syml ac effeithiol hwn a fydd yn gymorth iddynt i ddysgu am farciau gwiberod, ac i cofio ym mha fathau o lefydd y maent yn debygol o ddod o hyd iddynt. Mae rhoi rhywbeth i'r plant ei gadw yn gymorth i gynnal y teimladau positif hynny am wiberod.

pdf 07 Nadroedd Gwynt Cymraeg Popular

By 971 downloads

Download (pdf, 1.52 MB)

7 Nadroedd Gwynt_Cymraeg.pdf

Rydyn ni'n dwlu ar y syniad hwn y mae Kelvin Lawrence o DARG (Derbyshire Amphibian and Reptile Group) wedi ei anfon atom. Mae'n gweithio'n dda mewn sawl lleoliad, nid oes angen rhyw llawer o ddefnyddiau, mae'n lot o hwyl ac yn effeithiol iawn. Mae plant wrth eu bodd gyda'r rhain!

pdf 08 Cwis Helfa Gwiberod Cymraeg Popular

By 990 downloads

Download (pdf, 1.76 MB)

8 Cwis Helfa Gwiberod_Cymraeg.pdf

Efallai eich bod yn gweithio mewn lleoliad lle nad ydych yn debygol o weld unrhyw ymlusgiaid ar y safle gyda’r grŵp, er enghraifft, os ydych wedi eich cyfyngu at dir yr ysgol neu nid ydych yn gallu mynd i gefn gwlad am resymau eraill. Os felly, gall y gêm hon fod yn gyflwyniad defnyddiol i'r lleoliadau ble mae gwiberod yn byw, ac mae'n addysgu plant lle y gallent chwilio am wiberod pan fyddant allan yn yr awyr agored yn eu hamser eu hunain. Cuddiwch y gwiberod cardfwrdd cyn i chi gwrdd â'r grŵp, mewn mannau lle y byddech yn disgwyl iddynt fod (wrth ymylon y llwyni, mewn rhedyn ac o amgylch pentyrrau o foncyffion, er enghraifft). Ysgrifennwch gwestiynau gwir neu gelwydd sy'n gysylltiedig â gwiberod, ar y cefn, er mwyn ychwanegu gwerth addysgiadol a hwyl!

pdf 09 Llwybrau Cerrig Gwiberod Cymraeg Popular

By 913 downloads

Download (pdf, 1.52 MB)

9 Llwybrau Cerrig Gwiberod_Cymraeg.pdf

Cafwyd y syniad ar gyfer y gweithgaredd hwn wedi i aelod pryderus o'r cyhoedd gysylltu. Roedd yn dymuno codi ymwybyddiaeth am wiberod ar draeth poblogaidd yn Sir Benfro. Nid yw'n bosibl codi arwydd bob tro, ond mae ymgysylltu â phlant lleol mewn gweithgaredd sy'n hwyl ac yn codi ymwybyddiaeth, yn gallu bod yn effeithiol iawn. Y cyfan sydd arnoch ei angen yw paent, cerrig crynion, awdurdod lleol neu dirfeddiannwr sy'n barod i roi lle i'r cerrig, a grŵp parod o bobl. Buom ni'n gweithio gydag ysgolion, sgowtiaid/geidiaid a grwpiau cymunedol eraill. Y syniad yw cael cymaint â phosibl o aelodau o'r cyhoedd i ddod o hyd i'r cerrig, rhannu eu lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Facebook/Twitter, ac yna cuddio'r cerrig eto er mwyn i eraill ddod o hyd iddynt, gan ledaenu ymwybyddiaeth bositif o wiberod mewn ffordd sy'n ymgysylltu. Mae'r gweithgaredd hwn yn gweithio gyda grwpiau o bob oed - beth am ofyn i grwpiau cymunedol lleol gymryd rhan a chreu llwybr ar eich safle gwiberod?

pdf 10 Coronau gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 1024 downloads

Download (pdf, 1.87 MB)

10 Coronau gwiberod_Cymraeg.pdf

Dyma weithgaredd hyfryd ac eithaf cyflym ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus lle mae teuluoedd yn mynd i fod yn bresennol, er enghraifft sioe neu ffair. Mae'n osgoi'r defnydd o blastig a gellir ei addasu at y tymhorau gwahanol - defnyddiwch y deunydd planhigion sydd ar gael yn hwylus ar y pryd. Mae hefyd yn rhad iawn ac mae plant wrth eu boddau.

pdf 11 Gwiberod Gwib, Cacennau Cas_Cymraeg.pdf Popular

By 942 downloads

Download (pdf, 1.74 MB)

11 Gwiberod Gwib, Cacennau Cas_Cymraeg.pdf

Fersiwn gwahanol o’r gêm arferol o ‘Snakes and Ladders’, yn amlwg! Ond mae'n hwyl i fynd i'r afael â rhai o'r chwedlau negyddol ynghylch nadroedd. Yn y gêm draddodiadol, mae nadroedd yn eich anfon yn ôl i lawr yr ysgol, a 'dyw hyn ddim yn beth da o gwbl. Rydyn ni wedi ail-greu'r gêm - a hynny ar raddfa fawr! Nod ein gêm ni yw cyrraedd diwedd y bwrdd heb lanio ar gacen gardfwrdd, sy'n eich arafu trwy wneud i chi golli tro. Yn ein fersiwn ni, mae glanio ar gynffon neidr yn eich anfon yn agosach at y diwedd, gan eich bod chi'n 'dringo gwiberod', yn wahanol i'r fersiwn traddodiadol. Mae'r gweithgaredd hwn yn gallu bod yn wych os oes gennych stondin neu weithgaredd ar darmac caled neu concrit, oherwydd bydd yn denu plant i ddod i mewn i chwarae ac i siarad am nadroedd a pham nad nhw yw'r gelyn mewn gwirionedd.

pdf 12 Gwiberod Naturiol Grefftus_Cymraeg.pdf Popular

By 1045 downloads

Download (pdf, 891 KB)

12 Gwiberod Naturiol Grefftus_Cymraeg.pdf

Ffordd wych o gael plant ac oedolion i ymddiddori yn yr hyn sydd o'u cwmpas yw eu cael i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf naturiol. Weithiau, caiff hyn ei addysgu fel rhan o waith Ysgol y Goedwig, ac mae'n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae nadroedd yn benthyg eu hunain yn arbennig o dda i'r gweithgaredd hwn gan eu bod yn hawdd i bobl o bob oed eu creu! Os ydych chi wedi eich lleoli yn agos at goedwig, beth am roi tro ar wiberod coed clai? Traeth tywodlyd gerllaw? Beth am gael cystadleuaeth gwiberod tywod neu gael y grŵp cyfan i greu cerflun tywod anferth o wiber? Neu gallech greu patrwm gwiber allan o blanhigion a cherrig yr ydych yn dod o hyd iddynt gerllaw - mae 'na lond lle o bosibiliadau, felly chwiliwch i weld beth sydd ar gael, ac ewch ati i greu!

pdf 13 Nos-Oleuadau Gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 993 downloads

Download (pdf, 1.63 MB)

13 Nos-Oleuadau Gwiberod_Cymraeg.pdf

Dyma grefft syml, hyfryd y bydd plant ifanc yn dwlu arni. Mae'n defnyddio'r cysyniad o ailgylchu, oherwydd mae'r jariau'n cael eu hail-ddefnyddio ac os ydych yn prynu canhwyllau LED a bwerir gan fatri, gallwch ailddefnyddio'r rhain hefyd. Os ydych yn prynu tipyn ohonynt ar-lein, mae'r canhwyllau LED yn gallu bod yn ddigon rhad (tua 25c yr un - gweler 'Adnoddau'). Ar ôl y gweithgaredd, bydd gan y plant rywbeth hyfryd i'w gadw a'i drysori. I wneud y nos-olau hwn, dewisom ni olygfa hafaidd gyda gwiberod, ond mae hyn yn dibynnu ar eich digwyddiad - gallech ddefnyddio unrhyw dymor, neu batrymau gwiber sy'n hwyl!

pdf 14 Llusernau gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 1021 downloads

Download (pdf, 1.84 MB)

14 Llusernau gwiberod_Cymraeg.pdf

Gweithgaredd creadigol mawr, mwyaf cyffrous, Gwiberod Gwych! oedd y daith llusernau gyda'r hwyr ar Faes Awyr Tyddewi. Gwnaethom wiber enfawr a llusernau papur trionglog llai o faint gyda phlant ysgol Blwyddyn 5 mewn ysgolion lleol, a chafwyd noson ddramatig, wych o storïa. Gallech gynnal digwyddiad teuluol tebyg, er mwyn codi ymwybyddiaeth o wiberod yn eich ardal chi.

pdf 15 Swynoglau Gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 957 downloads

Download (pdf, 1.59 MB)

15 Swynoglau Gwiberod_Cymraeg.pdf

Mae cerrig gwiberod yn ymddangos mewn llawer o straeon a chwedlau, o ddiwylliant Celtaidd, Cymreig, Gwyddelig, a hyd yn oed o Rwsia. Roeddent yn bwysig iawn i Dderwyddon paganaidd a chredwyd eu bod yn gwella nifer o ddoluriau, ac yn gwarchod y perchennog rhag drwg. Mae cerrig gwiberod yn gerrig sydd â thwll naturiol ynddynt, a chredwyd mai gwiber sydd wedi eu creu. Rydym ni wedi cymryd y chwedl bwysig hon, ac wedi datblygu gweithgaredd crefftus i blant hŷn - swynogl gwiber. Mae creu'r swynogl gwiber yn gymorth i atgyfnerthu sgiliau adnabod ac yn creu rhodd hardd i'w hatgoffa o rinweddau positif gwiberod yn ôl ein cyndeidiau.

pdf 16 Monobrintiau Gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 964 downloads

Download (pdf, 1.60 MB)

16 Monobrintiau Gwiberod_Cymraeg.pdf

Os hoffech chi wneud darn o waith celf hynod o hardd i ddathlu gwiberod, efallai y byddai'n werth i chi daflu golwg ar y gweithgaredd hwn! Mae'n syml ac yn effeithiol iawn, ac fe fyddwch yn creu darnau hyfryd y bydd plant hŷn yn falch iawn ohonynt. Gallai plant ifanc wneud y gweithgaredd hwn hefyd, gydag ychydig o help, a bydd oedolion wrth eu boddau. Bydd arnoch angen offer a defnyddiau mwy arbenigol na rhai o'r gweithgareddau eraill, ond mae'n werth yr ymdrech. Os ydych yn dymuno prynu eich offer eich hun, gweler yr adran 'Adnoddau'.

pdf 17 Llyfrnodau Gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 1130 downloads

Download (pdf, 1.56 MB)

17 Llyfrnodau Gwiberod_Cymraeg.pdf

Artist ein prosiect, Emily Laurens, ddyluniodd y llyfrnodau gwiberod hyfryd hyn ar gyfer gweithgaredd gyda disgyblion ysgol uwchradd. Roedd y canlyniad yn wych! Mae'n waith cain, a gall plant bach ei wneud gyda chymorth, a dylech neilltuo digon o amser ar gyfer y gweithgaredd. Ond, mae'r canlyniad yn werth yr ymdrech. Mae'n eu helpu i werthfawrogi patrymau cennau hardd y wiber.

pdf 18 Nibls Nadroedd_Cymraeg.pdf Popular

By 946 downloads

Download (pdf, 1.29 MB)

18 Nibls Nadroedd_Cymraeg.pdf

Gallwch wneud y gweithgaredd hwn gyda grŵp o unrhyw oed, ond roedd yn gweithio orau gyda phlant hŷn ac oedolion. Efallai fod ffair leol y gallech fynd iddi i werthu cacennau nadroedd? Neu dewch â bisgedi gyda chi i'w haddurno gyda phlant mewn digwyddiad. Dydyn ni ddim yn bobyddion o fri, o bell ffordd, ond gallai'r bisgedi hyn eich ysbrydoli i wneud eich creadigaethau campus eich hun!

pdf 19 Cerddi Gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 1074 downloads

Download (pdf, 1.34 MB)

19 Cerddi Gwiberod_Cymraeg.pdf

Mae barddoniaeth yn ffordd wych o helpu plant i archwilio'r hyn y maent yn ei wybod, a sut y maent yn teimlo am wiberod. Fe welsom ni, mewn llawer o achosion, lle'r oedd canfyddiadau cychwynnol yn eithaf negyddol ac anghywir; roedd yr ymarfer hwn yn gymorth i'r plant fyfyrio a meddwl yn fwy gofalus am wiberod. Gwnaethom y gweithgaredd hwn gyda grŵp o blant 11 oed a oedd yn meddwl mai llofruddwyr difeddwl oedd gwiberod, yn hela ddydd a nos! Felly gall hwn fod yn weithgaredd gwych i asesu faint y mae plant hŷn yn ei wybod go iawn am wiberod, a gellir ei ddefnyddio fel man cychwyn ar gyfer diwrnod o weithgareddau. Neu gallech ei wneud ar ddiwedd y dydd i weld sut y mae eu canfyddiadau wedi newid.

pdf 20 Golygfeydd Ffenestri_Cymraeg.pdf Popular

By 914 downloads

Download (pdf, 1.22 MB)

20 Golygfeydd Ffenestri_Cymraeg.pdf

Gweithiodd artist ein prosiect, Emily Laurens, gyda grŵp Blwyddyn 6 mewn ysgol, i wneud 'ffenestri gwydr lliw' hyfryd o bapur sidan, ar gyfer ein harddangosfa Gwiberod Gwych. Mae'n hawdd eu gwneud a gallwch eu haddasu at y tymhorau gwahanol. Mae'n gweithio orau fel gweithgaredd dan do. Gallwch addasu'r rhain i weithio gydag unrhyw olygfa neu anifail, ond roedden ni'n cael hwyl yn ychwanegu gwiberod at y ffenestri tymhorol hyn, gan ddangos beth y maent yn ei wneud ar adegau gwahanol o'r flwyddyn. Ein ffefryn oedd golygfa'r hydref, wrth i'r wiber ddod o hyd i bentwr o ddail er mwyn gaeafgysgu! Mae'n gymorth i'r plant ddeall ecoleg a chylchoedd naturiol y wiber, ac mae hyn yn eu helpu i feithrin empathi tuag atynt.

pdf 21 Teils Clai Cynefinoedd Gwiberod_Cymraeg.pdf Popular

By 936 downloads

Download (pdf, 1.72 MB)

21 Teils Clai Cynefinoedd Gwiberod_Cymraeg.pdf

Dyma weithgaredd gwych i blant hŷn, pobl ifanc yn eu harddegau neu oedolion. Gallech adeiladu'r gweithgaredd hwn i mewn i sesiwn hirach, gan gynnwys taith ymlusgiaid lle gallai'r grŵp gasglu planhigion (gyda chaniatâd y tirfeddiannwr) o gynefin y wiber, er mwyn addurno'r teils. Gallech hefyd roi cyflwyniad ar ecoleg y wiber wrth i chi aros i'r teils sychu yn yr aer. Er bod y teils yn drawiadol iawn, mae hwn yn weithgaredd gweddol rad (mae'n costio tua 70c y teil) ac yn rhoi rhywbeth hardd i'r cyfranogwyr i'w helpu i gofio am eu diwrnod arbennig!

pdf 22 Ymgysylltu Â'r Gymuned _Cymraeg.pdf Popular

By 887 downloads

Download (pdf, 678 KB)

22 Ymgysylltu Â'r Gymuned _Cymraeg.pdf

Wrth i chi wneud gweithgareddau Gwiberod Gwych!, gwerthfawrogwn fod llawer o bobl yn pryderu neu'n ansicr am wiberod, ac i raddau helaeth erthyglau camarweiniol yn y wasg sy'n gyfrifol am hyn. Gallai rhoi cyflwyniadau i grwpiau lleol eich helpu i oresgyn hyn. Os ydych yn sylwi ar agweddau negyddol at wiberod yn eich cymuned, er enghraifft gan bobl sy'n pryderu wrth iddynt gerdded eu cŵn, neu rieni, neu bryderon busnes ynghylch gwrthdaro gyda thwristiaeth; efallai y gallech fynd at grwpiau lleol e.e. y cyngor, clwb garddio, Sefydliad y Merched, U3A, i gynnig cyflwyniad a/neu weithdy, i helpu i liniaru hyn. Cyn i chi roi sgwrs neu gyflwyniad, ceisiwch ddeall anian y grŵp, a strwythurwch eich deunyddiau i gyfateb â hynny. Rydym hefyd yn argymell y dylech fod yn barod i drafod unrhyw bryderon sy'n gysylltiedig â gwiberod mewn ffordd adeiladol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dawel eu meddwl unwaith y byddant yn darganfod y gwir am wiberod, ond mae'n well eu gadael nhw i gynnig atebion eu hunain fel cymuned, gan eu bod yn fwy tebygol o fod yn gynaliadwy.

pdf 23 Cyflwyniadau I Grwpiau O Oedolion_Cymraeg.pdf Popular

By 928 downloads

Download (pdf, 658 KB)

23 Cyflwyniadau I Grwpiau O Oedolion_Cymraeg.pdf

Yn Ystod y prosiect Gwiberod Gwych, lledaenodd y newyddion ein bod ar gael i siarad â grwpiau a oedd â diddordeb yn go glou. Roedd llawer o fathau gwahanol o grwpiau yn awyddus i glywed am ein hymlusgiaid a'n hamffibiaid brodorol. Os hoffech chi ledaenu'r gair, a helpu gwiberod a herpetoffawna brodorol eraill, beth am roi cyflwyniadau i'r cyhoedd a mynd at grwpiau gwahanol yn eich ardal chi? Cofiwch fod llawer o grwpiau, er enghraifft Sefydliad y Merched a Phrifysgol y 3edd Oes yn trefnu eu cyflwyniadau sawl mis ymlaen llaw.

pdf 24 Llifynnau Naturiol_Cymraeg.pdf Popular

By 979 downloads

Download (pdf, 1.75 MB)

24 Llifynnau Naturiol_Cymraeg.pdf

Yn ystod ein gwaith Gwiberod Gwych!, buom yn gweithio gyda grŵp gwnïo Tyddewi, The Stitchy Witches, a grwpiau Sefydliad y Merched, i greu cwilt 'gwiberod' hudolus. Buom yn gweithio gyda'r artist ffabrig Sian Lester, gan dreulio deuddydd yn creu ffabrigau wedi eu lliwio â llifynnau naturiol o blanhigion a geir yng nghynefin y wiber. Ar gyfer y broses hon, aethom allan fel grŵp i gasglu'r planhigion o ymylon heolydd a llwyni, ac yna dychwelyd ar gyfer sesiwn gweithdy dan do i dynnu'r llifynnau o'r planhigion a pharatoi a lliwio'r darnau ffabrig. Mae'r gweithgaredd hwn yn gweithio'n arbennig o dda i dynnu pobl ynghyd; i'w helpu i feddwl am yr amgylchedd naturiol lle mae'r gwiberod yn byw; a chreu rhywbeth hardd i ddathlu a lledaenu neges bositif am y wiber.

pdf 25 Defnyddiau ac Adnoddau_Cymraeg.pdf Popular

By 1021 downloads

Download (pdf, 928 KB)

25 Defnyddiau ac Adnoddau_Cymraeg.pdf

Am fwy o ysbrydoliaeth, taflwch olwg ar becyn gwych What's that Snake? i ysgolion cynradd (www.arguk.org/info-advice/educational-resources) a grëwyd gan Nigel Hand a Jo Polack mewn partneriaeth â HART (Herefordshire Amphibian and Reptile Team) a Herefordshire Wildlife Trust.